Cyhoeddwyd bod Arweinydd Ardal Bro ar gyfer Gorllewin Caerdydd, y Parch Andrew Sully, wedi ei ddewis yn Gadeirydd newydd Pwyllgor Ymgynghori Cenedlaethol Cymorth Cristnogol Cymru.
Cymorth Cristnogol ydy asiantaeth ddyngarol a datblygiad rhyngwladol eglwysi Ynysoedd Prydain ac Iwerddon, ac mae’r Pwyllgor Cenedlaethol yn gwasanaethu fel corff cynghori i’w Bwrdd Ymddiriedolwyr, yn ogystal ag ymgysylltu ag eglwysi, cefnogwyr a sefydliadau eraill yng Nghymru er mwyn cefnogi gwaith yr elusen mewn cymunedau bregus ledled y byd.
Mae Andrew, a fu’n gwasanaethu’n ddiweddar fel Pennaeth Dros Dro y mudiad yng Nghymru, yn gadeirydd Grŵp Cymorth Cristnogol Eglwys Gadeiriol Llandaf a bydd hefyd yn ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr Cymorth Cristnogol.
Cafodd Andrew ei hyfforddiant yng Ngholeg Queen’s, Birmingham, ynghyd â’i wraig, Mary, sy’n Esgob Llandaf – ac mae’r ddau wedi bod yn gefnogwyr brwd Cymorth Cristnogol ers blynyddoedd lawer.
Cyn ymgartrefu yn Llandaf, bu Andrew yn offeiriad, yn gweithio ym mhump o chwe esgobaeth Cymru ac yn ystod y cyfnod hwnnw, fe fyddai’n aml yn derbyn rôl swyddog ecwmenaidd, yn hyrwyddo’r gydberthynas rhwng eglwysi o wahanol enwadau. Cafodd secondiad am gyfnod gyda Cytûn/Eglwysi Ynghyd yng Nghymru fel swyddog maes yn y gogledd.
Bu Andrew yn ‘ymgyrchydd’ hunanhonedig i Cymorth Cristnogol dros y 30 mlynedd ddiwethaf, gan gymryd rhan mewn ymgyrchoedd allweddol a gweithgareddau codi arian. Mae’r rhain wedi cynnwys seiclo o Lundain i Copenhagen ar gyfer trafodaethau COP yn 2009, Llundain i Baris a Lôn Las Cymru ac, yn fwy diweddar, cerdded cestyll Cymru yn y gogledd, a llwybr pererinion Llandaf i Benrhys sydd ar droed ar gyfer Wythnos Cymorth Cristnogol 2024.
Meddai Andrew, sy’n ysgwyddo rôl y Cadeirydd gan y Parch Nan Powell Davies:
Fy ngobaith ydy dod â’m gwybodaeth a phrofiad o Gymru a’i chymunedau i’r rôl hon, a dwi’n edrych ymlaen at gefnogi Mari a thîm Cymorth Cristnogol Cymru, yn ogystal â bwrdd a staff ehangach Cymorth Cristnogol. Mae’r dasg o ddileu tlodi mor berthnasol ag erioed yn y cyfnod hwn o argyfwng hinsawdd, ac mae Cymorth Cristnogol yn allweddol i bontio rhwng cymunedau sydd dan dlodi yn fyd-eang ac eglwysi yng Nghymru a gweddill y DU.
Daw Andrew â gwybodaeth helaeth o Gymru a’i chymunedau i’r rôl hon.Rydyn ni wrth ein boddau i barhau i allu gweithio gydag e i ymgysylltu â chefnogwyr, eglwysi a mudiadau eraill er mwyn codi arian ac ymgyrchu yn ein hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi ac anghyfiawnder yn fyd-eang.
Daw’r datganiad ar drothwy Wythnos Cymorth Cristnogol, 12-18 Mai, lle mae cannoedd o wirfoddolwyr a chymunedau yn paratoi i weithredu ar dlodi yn fyd-eang, hyn trwy amryw o heriau a digwyddiadau cymunedol codi arian.
Nodiadau i olygyddion:
I unrhyw un sydd am gefnogi Pererindod Llandaf, ewch i’r dudalen codi arian: Pilgrimage from Llandaff to Penrhys - Christian Aid Fundraise